Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

* Un o sesiynau’r Gynhadledd eleni oedd sesiwn ar sgiliau Meicro Wrando gan Haydn Hughes (Canolfan y Gogledd) ac Elin Williams (Canolfan y Canolbarth.) Diolch iddynt am roi blas o’u cyflwyniad bywiog isod.

Sgiliau Meicro Wrando

Haydn Hughes
Elin Williams

rule

Ein nod yw:
Ystyried sut y medrwn ddatblygu sgiliau meicro wrando, ac yn arbennig felly:

llun haydn ac elinBwriad y gweithgareddau isod yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i gadarnhau dealltwriaeth yn ystod sgwrs.
Pam mae’n bwysig gwneud hyn? Pam mae’n bwysig eich bod yn dangos i bobl eich bod yn gwrando arnynt?
Beth ydy peryglon peidio gwneud hyn?

rule

Gweithgaredd: Gwrando’n weledol

Rhannwch y dosbarth yn barau a gofyn iddynt benderfynu pwy yw partner A a phartner B. Mae A i siarad am funud neu ddau ar bwnc sy’n ei wylltio. Mae’n rhaid i B wneud ei orau glas i ddangos nad ydyw yn gwrando. Gofynnwch i A sut oedd o’n teimlo.
Mae B nawr i siarad am bwnc sy’n agos iawn at ei galon, ond y tro hwn mae A yn mynd i wrando’n weledol gan ymateb i’r hyn sy’n cael ei ddweud.
Gofynnwch iddynt sut oedd A yn dangos ei fod yn gwrando a pha strategaethau a ddefnyddiwyd?
Mae gwrandawr da yn dangos diddordeb trwy:

Mae hyn yn weithgaredd syml y gellid ei wneud gyda dysgwyr o dro i dro er mwyn dangos y dylai’r hyn yr ydym yn ei wneud heb feddwl yn ein mamiaith ddigwydd hefyd wrth i ni sgwrsio mewn ail-iaith, ac efallai y dylen ni fod yn barod i ddysgu hyn fel sgiliau ar wahân

Beth sy’n gwneud gwrandawr da?
Pam y dylen ni bwysleisio natur rhyngweithiol gwrando?
Tybed a yw ein tasgau gwrando traddodiadol ni yn hyfforddi ein dysgwyr i fod yn wrandawyr rhyngweithiol?
Neu ai’r gwir yw ein bod yn trwytho’n dysgwyr i fod yn wrandawyr goddefol?
Beth ydy nodweddion y dasg wrando draddodiadol?

Ond nid fel hyn y mae gwrando naturiol yn digwydd. Mae fel adrodd hanes rhyw ddigwyddiad neu’i gilydd wrth rywun ac wedyn eu holi e.e. enw sawl tre glywoch chi? Beth yn union ddigwyddodd i Bet? Pryd gusanodd Sion Bet – ar ddechrau’r stori, yn y canol neu ar y diwedd? Pryd gawsoch chi eich cusanu gan ddyn dieithr ddiwetha? Trafodwch!

Nid ydym yn dweud nad oes yna werth na lle i’r dull hwn. Mae’n caniatáu i’r dysgwr ddeall sgwrs/testun sain heb y pwysau sydd ynghlwm wrth wrando yn y byd go iawn. Serch hynny, gellir awgrymu nad yw’r dulliau yma yn paratoi dysgwyr yn ddigonol ar gyfer rhyngweithio nac ychwaith yn eu paratoi’n ddigonol ar gyfer adnabod seiniau penodol. Ein bwriad ni yw ceisio datblygu a chronni gweithgareddau y gellid eu defnyddio law yn llaw â’r dulliau traddodiadol i wella sgiliau gwrando’r dysgwyr.  Mae’r gweithgaredd hwn yn atgoffa dysgwyr bod ganddyn nhw ran ymatebol mewn sgwrs.

rule

Gweithgaredd: Cwestiynau bach

Bydd rhaid dosbarthu cerdyn i bawb gydag un gair ar y cerdyn:
Pam, Sut, Pryd, Pwy.
“Dw i am ddeud stori gyffrous wrthych am be wnes i bore ma o’r amser codes i i pan gyrhaeddes i fan hyn. Dw i am drio cyrraedd pen y daith mewn 5 munud. Eich tasg chi yw fy rhwystro i rhag cyrraedd fa’ma drwy fod yn bobl fusneslyd a gofyn cwestiynau i mi sy’n cynnws y gair sy ar eich cerdyn….”

Mae llawr mwy i’r elfen ryngweithiol na holi cwestiynau er enghraifft. Mae rhyngweithio’n golygu cymryd tro a.y.y.b.

O ran adnabod seiniau penodol – gwneir ychydig o hyn yn ein tasgau traddodiadol, ond dim hanner digon.

Medrwn ystyried rhai o’r ffactorau sy’n gyfrifol am y sefyllfaoedd gwrando anodd sydd allan yna – ac ystyried un neu ddau o weithgareddau allai fod o gymorth i ddysgwyr ymdopi â nhw. Pa mor real ydy ein deunyddiau gwrando ni? Ydy pobl yn torri ar draws ei gilydd ynddyn nhw? Na, maen nhw wedi eu cynllunio’n ofalus fel bod B yn aros yn dawel nes i A orffen ei bwt. Cwrtais iawn – ond pa neges y mae hyn yn ei roi i’n dysgwyr ni o ran cyfrannu at sgyrsiau? Cyfres o fonologau cyd-gysylltiedig ydy llawer o’n deialogau ni yn hytrach na sgyrsiau realistig. Beth yw’r broblem efo hynny? Wel, yn y lle cynta dydy o ddim yn hyrwyddo rhuglder llyfn. Er bod sgwrs naturiol yn flêr, efo’r torri ar draws a newid cyfeiriad yn ddi-rybudd, mae’n llwyddo i fod yn ffenomena sy’n llifo yn llawer gwell na’n deialogau twt ni. Un o’r rhesymau dros hynny ydy’r defnydd a wneir gan y llefarydd o dechnegau i fonitro dealltwriaeth.Gwneir hynny trwy gynffoneiriau yn aml iawn - rhywbeth na roddir fawr o sylw iddo tan y lefelau uwch. Ond mae’r gwrandawr hefyd yn defnyddio technegau i gadarnhau ei fod yn gwrando ac yn deall e.e. porthi a defnyddio ebychiadau.

rule

Gweithgaredd: Ebychiadau!      

Heb feddwl yn aml, dyn ni’n defnyddio ebychiadau i ddangos i siaradwyr ein bod yn gwrando ac yn cymryd diddordeb yn yr hyn sy’n cael ei ddweud. Pa fath o ebychiadau dyn ni’n eu defnyddio?

Wir?
Na
Paid a deud
Taw â dy gelwydd
Jiw jiw!
Tewch â son
Bydd dawel
Dwi ddim yn dy gredu di
Cer o ‘ma!

Ailadrodd

Bydd rhaid paratoi storïau doniol o flaen llaw a’u rhoi ar gerdyn.
Mewn grwpiau o 2 neu 3 dylid edrych ar y stori newyddion a thrio’i chofio.  Yna mynd o amgylch yr ystafell yn adrodd y storïau i’w gilydd gan ddefnyddio ebychiadau i ddangos eu bod yn gwrando â diddordeb. Os clywan nhw’r un stori ddwywaith, mae’n rhaid deud ‘twt mae hwnna’n hen hanes!’

rule

Gweithgaredd: Sŵn yn y cefndir

Mantais y dull traddodiadol ydy ei fod yn rhoi amser i ddysgwyr i ddeall ac i ddehongli – mae hynny’n iawn, ond mae eisiau symud ymlaen a rhoi iddyn nhw strategaethau i ddelio â’r anawsterau y gallen nhw eu hwynebu y tu allan i’r dosbarth.
Amcan y gweithgaredd hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r anawsterau a all godi wrth wrando yn y byd go iawn, a sut y medrwn ddatblygu strategaethau er mwyn delio â sefyllfaoedd gwrando anodd megis sŵn yn y cefndir neu gyd-destun anghyfarwydd.

Rhannu cardiau hunaniaeth

Enw:

Lle:

Gwaith:

Hobi:

 

Rhannwch y dosbarth yn barau, a phenderfynwch pwy yw A a B.  Gofynnwch i bob A sefyll yn erbyn un wal ac yna pob B i sefyll yn erbyn y wal gyferbyn, gan sicrhau nad ydyn nhw gyferbyn â’u partneriaid. Gan ddefnyddio eu lleisiau yn unig, bydd rhaid iddynt gyfnewid yr wybodaeth sydd ar eu cardiau.
Yr ail dro, gofynnwch iddynt drafod unrhyw bwnc dan haul, ond y tro hwn gan ddefnyddio meim, ystum a.y.y.b. yn ogystal â’u llais.

Sut i ymdopi mewn sefyllfaoedd gwrando anodd:
Defnyddiwch…

Meim
Cyswllt llygaid
Ystumio gyda’r dwylo
Iaith y corff
Pwysleisio symudiadau gwefus

Cofiwch, pe byddai ein dysgwyr ond yn gwrando’n oddefol, mae yna beryg i’r sawl sy’n sgwrsio deimlo’n gwbl ddi-ymadferth gan roi’r gorau i’r sgwrs.

I orffen, dyn ni’n mynd i ystyried sut y gellir helpu dysgwyr i adnabod seiniau penodol. Pam mae’r sgil yma’n bwysig? Mae ein geiriau’n rhedeg mewn i’w gilydd a dan ni’n rhoi’r ymdrech leia bosib i gyfleu yr hyn dyn ni am ei gyfleu. Ac wrth gwrs os nad ydy’r gwrandawr yn deall bydd y llefarydd yn trio eto – drwy aralleirio, neu drwy wneud ymdrech i fod yn gliriach neu drwy roi brawddeg neu ymadrodd llawn.
Oni bai eich bod yn ddysgwr! Dydy dysgwyr ddim yn cael ail gyfle – mae peidio â deall yn sbardun i’r siaradwr Cymraeg droi i’r Saesneg.

Felly, mae’n bwysig paratoi ein dysgwyr i ddeall y tro cynta. Mae’r ffurfiau cywasgiedig yma yn cael eu trefnu yn rhannau ymadrodd, yn ‘chunks,’ gan y siaradwyr Cymraeg. Mae’n bwysig bod y dysgwyr yn ymgyfarwyddo â’r rhain ac yn gwrando amdanyn nhw. Dyma rai enghreifftiau.

Fatha
Wmbo
Hawdi tri
Tidi..?
Wstibe?

Mae nifer o ffyrdd o ddwyn sylw y dysgwyr at hyn.

rule

Gweithgaredd: Gafael yn Dynn

Dewis cân e.e. ‘Gafael yn Dynn’ gan Meinir Gwilym gan rannu geiriau / llinellau unigol o’r gân ar gerdyn ymhlith y dosbarth. Chwarae’r gân, er mwyn rhoi cyfle iddynt ymgyfarwyddo, yna ei chwarae am yr ail dro gan ofyn i’r dosbarth godi ar eu traed pan fyddant yn clywed y geiriau sydd ar eu cerdyn. Hen dric yw hwn – ond ffordd dda o dynnu sylw dysgwyr at yr hyn sy’n digwydd yn ein hiaith lafar ni. Mae hefyd yn weithgaredd cinaesthetig ac yn tanlinellu mai rhywbeth rhagweithiol yw gwrando.

rule